Mae’n bosib fydd rhai o swyddogaethau Llenyddiaeth Cymru yn dod dan adain Cyngor Llyfrau Cymru fel rhan o ad-drefnu ariannu diwylliant.

Yn ystod cyfarfod llawn yn siambr y Senedd heddiw, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ei fod yn ystyried gofyn i Gyngor Llyfrau Cymru gymryd rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd y byddai’n ystyried y posibilrwydd o’r Cyngor Llyfrau yn cymryd rheolaeth dros gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, bwrsariaethau, gwyliau llenyddol a Llenorion ar Daith a’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

“Newidiadau mawr”

Daw ei sylwadau wrth i Ken Skates drafod yr argymhellion mewn adolygiad annibynnol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: “Mae rhai o’r newidiadau sy’n cael eu hargymell yn fawr ond maen nhw’n ymateb i anghenion penodol mewn maes penodol.

“Nid ydynt yn fesur mewn unrhyw ffordd o waith da ehangach y Cyngor Celfyddydau na Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys y ffordd wych y maen nhw’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mawr sy’n gysylltiedig â’n blynyddoedd thematig.  Bydd y rheini’n parhau heb eu newid.

“Rwyf wedi cael fy argyhoeddi bod angen cymryd y camau hyn i greu fframwaith o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth sy’n fwy effeithiol ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

“Mynnu ystyriaeth ofalus”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Llenyddiaeth Cymru: “Mae adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru o gymorth ar gyfer cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru yn cyflwyno nifer o argymhellion sy’n mynnu ystyriaeth ofalus a thrylwyr.

“Edrychwn ymlaen at ddarllen yr adroddiad yn llawn, a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau yn parhau i fod yn hygyrch i ystod eang o gymunedau ac unigolion trwy Gymru gyfan.”