Glyndwr Thomas (Llun: Karen Owen)
Bu farw’r bardd annwyl a bonheddig a gyfansoddodd gywydd croeso prifwyl Môn eleni.

Roedd Glyndwr Thomas yn 86 mlwydd oed ac wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn byw ym mhentref Cemaes yng ngogledd ddwyrain yr ynys. Fe fu’n aelod o nifer o dimau talwrn, yn cynnwys Tîm Bro Alaw, ac fe enillodd gadair eisteddfod daleithiol Môn yn 1999.

Fe’i ganwyd yng Nghaernarfon, ac roedd yn falch o’r cysylltiad teuluol ar ochr ei dad gyda’r llenor Kate Roberts a phentref Rhosgadfan. Bu farw Mai 28, 2017.

Roedd ei waith, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cynilion yn 1992 gan Wasg Gwynedd, yn adlewyrchiad o gymeriad hoffus a sensitif y bardd ei hun.

Yn ei gywydd croeso i’r brifwyl a fydd yn ymweld â Bodedern yn ystod wythnos gyntaf Awst eleni, meddai Glyndwr Thomas:

Modured i Fodedern

i le gŵyl trwy ddôl a gwern,

y miloedd o ymwelwyr,

dwyn pawb sydd â doniau pur…

O’r arlwy o’i thramwyo

a hawlio’i braint fesul bro,

yna Môn fydd fam o hyd,

yn do i’w hepil diwyd,

ei gwŷs o’i chalon ar goedd

a’i dwyfraich dros y dyfroedd.

Mae Glyndwr Thomas yn gadael gweddw, Gwen, ac un ferch, Alwen, y bu mor ofalus ohoni ar hyd y blynyddoedd. Yn ôl ei ddymuniad, roedd ei gynhebrwng yn un hollol breifat.