Alun Jones (Llun: golwg360)
Mewn seremoni yn Aberystwyth heddiw, fe gafodd golygydd creadigol gwasg Y Lolfa, Alun Jones ei wobrwyo am gyfraniad oes i lyfrau a’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg.

Esboniodd trefnwyr gŵyl y Fedwen Lyfrau mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno i olygydd, gydag awduron ac artistiaid wedi’i hennill yn y gorffennol.

Ac mewn cyfweliad â golwg360, dywedodd Alun Jones ei fod yn falch o dderbyn y wobr gan esbonio mai “gwaith golygydd creadigol ydy rhoi digon o awgrymiadau i awdur o sut y mae codi gwaith i lefel ychydig yn uwch.”

Dywedodd ei fod wedi ceisio annog awduron i “ddatblygu ac arbrofi a’u cael nhw i feddwl yn greadigol.”

“Enw’r nofelydd sydd ar y clawr, felly eu cyfrol nhw yw e, allwn ni ddim wedyn mynnu ein ffordd – cydweithio yw hanfod y peth,” meddai.

‘Bachan ardderchog’

Yn fab fferm o ardal Llanpumsaint, Sir Gâr, roedd Alun Jones wedi’i gydnabod am ei gyfraniad i gymunedau Cymraeg wrth dderbyn Medal Syr T.H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair blynedd yn ôl.

Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn hyfforddi’n athro a gweithio yn ei dro yn Ysgol Bargoed, Cwm Rhymni; Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd; Ysgol y Moelwyn ac yna Ysgol Penweddig, Aberystwyth.

Ers ymddeol, mae e wedi gweithio fel golygydd i wasg Y Lolfa gan ymgartrefu yn Chwilog bellach.

‘Haeddu’r wobr’

“Mae’n haeddu’r wobr hon yn llwyr,” meddai Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg y Lolfa sy’n dathlu’i hanner canrif mewn parti’r penwythnos hwn.

“Mae’n fachan ardderchog sy’n trin awduron gyda’r parch a’r amarch angenrheidiol. Mae’n dweud wrthyn nhw beth mae’n feddwl ac mae’n rhoi’r cyfle iddyn nhw ymateb, a dw i’n falch iawn fod Alun wedi cael y wobr hon,” meddai wedyn.

Stori a chyfweliad: Megan Lewis