Ifan Morgan Jones
Does dim digon o ymateb wedi bod i ddatganoli yn llenyddiaeth yr iaith Gymraeg, yn ôl awdur sy’n ceisio mynd i’r afael â hynny.

Ag yntau’n gyn-newyddiadurwr sydd bellach yn ddarlithydd Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, esbonia Ifan Morgan Jones fod ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth wedi ysbrydoli ei nofel newydd – Dadeni.

“Dw i’n trio cadw’r wleidyddiaeth mor gyffrous â phosib,” meddai gan esbonio ei fod yn cyfuno elfennau o chwedloniaeth Cymru gyda gwleidyddiaeth yr oes.

“Dw i’n meddwl fod digwyddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, pethau fel Brexit a Donald Trump yn cael ei ethol yn yr Unol Daleithiau wedi cael dipyn o ddylanwad ar gyfeiriad y nofel hefyd,” ychwanegodd.

Nofel antur – elfennau ffantasi

Er ei fod yn cydnabod fod elfennau ffantasi yn y nofel, dydy e ddim am ei disgrifio hi’n nofel ffantasi yn unig – gan nodi fod ystrydebau ynghlwm â hynny.

Esboniodd fod pobol yn cysylltu nofelau plant â deunydd ffantasi, neu’n gwrthod rhoi cynnig ar eu darllen am nad ydynt yn darllen nofelau ffantasi fel arfer.

“Dw i’n cadw’r elfennau ffantasi yn eithaf cynnil,” meddai gan ychwanegu fod y genre yn ffordd o “amlygu themâu pwysig efallai rydan ni angen eu trafod nhw fel cenedl.”

Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt archeolegydd a’i fab sy’n ymchwilio i ladrad yn nhŵr Llundain gan ddarganfod cynllwyn sy’n ceisio meddiannu grym dros Gymru drwy ddefnyddio creiriau o gyfnod y Mabinogi.