Natalie Ann Holborow ac Emily Blewitt yn Waterstones wrth lansio’u cyfrolau barddoniaeth
Mae dau lais benywaidd newydd yn y byd barddoniaeth Eingl-Gymreig yn benderfynol o sicrhau bod eu lleisiau Cymreig yn cael eu clywed.

And Suddenly You Find Yourself yw cyfrol gyntaf Natalie Ann Holborow o Abertawe. Ond mae’r bardd 26 oed eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Terry Hetherington a Gwobr Robin Reeves yn 2015, a daeth yn agos at ennill Gwobr Llais Newydd PEN Cymru y llynedd.

Mae Emily Blewitt, 30, newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, This Is Not A Rescue, a chafodd y gerdd sy’n dwyn yr un teitl gydnabyddiaeth arbennig yng ngwobrau Forward. Enillodd wobr Cadaverine/Unity Day yn 2010, a derbyniodd gydnabyddiaeth arbennig ar gyfer Gwobr Terry Hetherington yn 2014.

Natalie Ann Holborow yn darganfod ei llais

Mae teitl cyfrol Natalie Ann Holborow yn arbennig o addas oherwydd, fel yr eglurodd wrth golwg360 ar ôl ei lansiad yn Abertawe, mae hi wedi darganfod ei llais Eingl-Gymreig wrth ysgrifennu’r gyfrol, sy’n cynnwys cerddi am Abertawe a Chymru, ac yn treiddio i feddylfryd y Cymry.

“Dw i’n credu bod fy llais yn eitha’ cryf. Mae’n rhywbeth sy’n codi o hyd. Mae’n brofiad nerfus i ddarllen adolygiadau ond yr un peth sy’n codi o hyd yw’r llais a’r delweddau Cymreig.

“Wnes i sôn yn y lansiad pan o’n i’n darllen fy ngwaith fod eich gwreiddiau’n rhan ohonoch chi a byddan nhw’n dod allan yn ystod y broses greadigol oherwydd bod cymaint o’r isymwybod yn mynd i mewn i’r broses hefyd.”

Cafodd lansiad cyntaf un Natalie Ann Holborow ei gynnal yn India ond roedd y ffaith ei bod hi’n cario’i geiriau gyda hi i’r wlad honno’n golygu bod darn o Gymru’n cael mynd gyda hi, meddai.

“Pan gafodd y gyfrol hon ei lansio yn India, roedd pobol yn gofyn i fi o hyd, ‘Ydi hi’n teimlo’n od ei lansio hi oddi cartref?’ Ond fy ngeiriau yw fy nghartref, os yw hynny’n gwneud synnwyr. Pan dw i’n eu darllen nhw, dw i’n ôl yn y lle y gwnes i eu hysgrifennu nhw.

“R’ych chi’n cario darn o’r lle cawsoch chi eich geni gyda chi o hyd. Does dim ots i le’r ewch chi, byddwch chi bob amser yn cael eich galw’n ôl, a bydd y cyswllt hwnnw gyda chi o hyd.”

Fel un sy’n perfformio’i gwaith ar lafar mewn digwyddiadau barddol, mae’r llais benywaidd yn arbennig o bwysig iddi.

“Dw i’n hoffi rhoi llais i gymeriadau benywaidd oedd yn dawel yn wreiddiol. Mae hynny’n digwydd dipyn mewn llenyddiaeth, lle mae’r fenyw yn y cefndir, ond dw i am ddod â hi i’r blaen. Dw i eisiau gweld dynion a menywod yn fodau dynol fel ei gilydd.”

Er nad yw hi’n siarad Cymraeg, mae ei dealltwriaeth o ddwyieithrwydd a chymhlethdodau ieithyddol ei bro heb ei ail. Er enghraifft, mae hi’n trafod salwch y diciâu yn y gerdd Craig y Nos lle mae dyn mor sâl nes ei fod yn “barely able to pant the word dŵr”. Yn y gerdd Seasalt, cawn hanes bachgen a’i dad-cu, a’r cyfan wedi’i adrodd drwy ddarluniau Cymreig cyfarwydd: “Twirling a ribbon of seaweed, his grandfather bellows…da iawn, mun – coughs with a copper lung.”

Ond cawn hefyd ddarluniau o’r bardd oddi cartref yn y gerdd London, lle mae’n cyferbynnu bywyd y ddinas â bywyd ar lan y môr:

They bring themselves, tiny,

scribbling to London

where not understanding the language of speed,

I roll in my bed like the shore.

 

Emily Blewitt – “tinc o Gymraeg” yn ei llais

Ysgrifennu am Gymru tra roedd hi oddi cartref oedd y sbardun i Emily Blewitt wrth iddi ddarganfod ei llais hithau fel bardd Eingl-Gymreig.

Mae “tinc o Gymraeg” yn ei llais, meddai, ac mae hynny i’w weld yn glir yn y gerdd How to Marry a Welsh Girl, lle dywed:

If you still want me, you’ll have to make off with me,

and even then my da and brawd won’t give up the chase”,

ac yna:

since you’re a Saes, you won’t know to carve a lovespoon”.

Dywedodd wrth golwg360: “Mae’n rhaid bod fy llais yn gryfach nag o’n i wedi’i ddychmygu ar y dechrau oherwydd wnes i ddim meddwl llawer am y peth i ddechrau ond wrth i fi ysgrifennu mwy am y profiad o fod yn Gymraes ifanc, roedd pobol eraill yn dechrau sylwi hefyd. Felly dw i’n sicr yn galw fy hun yn fardd Cymreig nawr.

“Dw i ddim yn rhugl yn Gymraeg ond mae tinc o Gymraeg yn fy Saesneg, felly mae rhyw gerddoriaeth neu ymadroddion yn deillio o hynny.”

Mae’n sicr bod gan Emily Blewitt ymwybyddiaeth ddofn o’i Chymreictod a hanes Cymru, un o brif themâu ei gwaith. Yn ei gwaith, mae cyfeiriadau at lyfr Caniedydd yr Ifanc ac atgofion capelwraig yn Sometimes I Think of Chapel, a hanes traeth Cefn Sidan yn y cerddi Burry Port a Wrecker. Er ei hoffter amlwg o Gymru, eglura, “Do’n i’n methu aros i adael Cymru pan o’n i’n ddeunaw, ac yna fe ges i fy hun yn dychwelyd yma.”

Cael ei “galw’n ôl” i Gymru wnaeth hi, meddai, gan fod y “lle mor nodedig”.

“Gallech chi fod ryw ugain milltir i ffwrdd o rywun ac mae’r diwylliant neu’r acen yn newid ychydig. Felly mae pwysigrwydd llefydd wedi dod yn fwy arwyddocaol yn fy marddoniaeth wrth i fi fynd yn hŷn hefyd.”

Mae And Suddenly You Find Yourself gan Natalie Ann Holborow ar gael am £7.99 gan Parthian Books, a This Is Not A Rescue gan Emily Blewitt ar gael am £9.99 gan Seren Books. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynnu copi – fe welwch chi Gymru a’r byd drwy lygaid newydd!