Bedd yr Afanc, Preseli (Llun: o gyfrol Y Preselau gan Dyfed Elis-Gruffydd)
Mae ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru – ‘Blwyddyn y Chwedlau’ – yn gyfle i roi sylw i chwedlau llai adnabyddus yn ogystal â’r rhai mwya’ cyfarwydd.

Dyna farn un daearegydd ac awdur cyfrol newydd sy’n dwyn ynghyd straeon o ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro.

Mae Y Preselau gan Dyfed Elis-Gruffydd yn rhoi braslun o ddiwydiant, daeareg, cadwraeth a chwedlau’r ardal.

“Dw i wedi dewis rhoi sylw i chwedlau nad oedd yn gyfarwydd imi cyn dechrau’r ymchwil,” meddai’r awdur wrth golwg360.

“Mae’n hynod bwysig eu cofnodi nhw, neu fe allan nhw fynd yn angof.”

Preseli – ‘ddim mor gyfarwydd i bobol’

Yn ôl Dyfed Elis-Gruffydd, dyw ardal y Preseli ddim wedi cael cymaint o sylw ag ucheldiroedd eraill Cymru, gan gynnwys y Bannau Brycheiniog ac Eryri.

“Dw i ddim yn credu fod y Preselau yn gyfarwydd iawn i nifer o bobol yng Nghymru, efallai am fod de orllewin Cymru yn gymharol ddiarffordd,” meddai.

Ychwanegodd nad oes digon o ymwybyddiaeth wedi’i greu am hanes yr ardal, a dywedodd fod ei gyfrol yn ceisio ymrafael â’r archaeoleg ynghyd â gwaith beirdd, llenorion a chwedlau’r ardal.

Anghenfil Dŵr Brynberian

Un o’r chwedlau ymylol y mae Dyfed Elis-Gruffydd yn teimlo nad sydd wedi cael digon o sylw yw ‘Anghenfil Dŵr Brynberian.’

Mae’r chwedl yn sôn am anghenfil sy’n codi ofn ar y bobol gan ladd eu defaid, a hyd heddiw mae modd gweld safle ‘Bedd yr Afanc’ ar y mynyddoedd lle cafodd yr anghenfil ei gladdu.

Dyma glip o’r awdur yn darllen darn o’r chwedl o’i gyfrol.