Zoe Skoulding, cyfarwyddwr yr wyl
Mae disgwyl i feirdd o Chile, Ffrainc, Galisia, India, Mecsico, Yr Alban a Slofenia deithio i Aberystwyth heddiw ar gyfer diwrnod cyntaf Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Cymru.

Dyma’r bumed flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal a bydd yn ymweld â Chaernarfon a Bangor cyn diwedd yr wythnos hefyd.

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Patrick McGuinness a Rhys Trimble yn cymryd rhan yn yr ŵyl hefyd.

‘Dathlu cysylltiadau’

Thema’r ŵyl eleni ydi barddoniaeth o wledydd lle mae Sbaeneg yn brif iaith, ac mae disgwyl i’r beirdd archwilio’r berthynas lenyddol ag Ewrop a rôl wleidyddol barddoniaeth o America Ladin i Sbaen.

“Mae’r ŵyl hon yn dathlu cysylltiadau ar draws ieithoedd a diwylliannau, gan greu lle ar gyfer gobaith a dychymyg sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed,” meddai Zoë Skoulding o Brifysgol Bangor sy’n cyd-gyfarwyddo’r ŵyl.

Mae’r ŵyl yn rhan o brosiect Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy’n cael ei ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.