Llun: Cyngor Llyfrau Cymru
Mae astudiaeth newydd yn amlygu fod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y defnydd o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl arolwg gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK, mae 51% o bobol ifanc rhwng 15 a 24 oed yng Nghymru bellach yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus.

Yn ogystal, mae cynnydd wedi bod yn nifer y teuluoedd sydd â phlant ifanc sy’n defnyddio’r llyfrgelloedd, ac mae’r cyfanswm cyffredinol wedi codi o 45% i 46% rhwng 2011 a 2016.

‘Adnodd poblogaidd’

“Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn parhau’n adnodd sifil hynod o boblogaidd ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon,” meddai Martyn Evans Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Carnegie UK.

Fe wnaeth yr arolwg holi 10,000 o bobol ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon gan ddatgelu fod un o bob dau berson yn dal i ymweld â’u llyfrgell leol.

Daw hyn er gwaetha’r ffaith fod 300 o lyfrgelloedd ar draws y Deyrnas Unedig wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Y wers allweddol yw bod angen i lyfrgelloedd fod yn fwy hyderus, meddu ar dystiolaeth well ac ailadrodd yr ymarfer gorau,” ychwanegodd Martyn Evans.