Sian Lewis (Llun Cyngor Llyfrau Cymru)
Mae awdures amlwg yn dweud bod angen mwy o gyfresi Cymraeg fyddai’n “gwirioneddol afael” wrth i blant eu darllen.

Ac fe alwodd am fwy o gydweithio rhwng byd teledu a ffilm a llyfrau plant er mwyn bachu plant i ddilyn y cymeriadau.

“Mae yna lawer o amrywiaeth ar gael yn barod, ond beth sydd eisiau yw mwy o gyfresi a fyddai’n rhoi cyfle i blant ddod i adnabod y cymeriadau,” meddai Siân Lewis sydd wedi cyhoeddi mwy na 250 o lyfrau Cymraeg gwreiddiol ac addasiadau i blant.

“Byddai’n braf petai rhywun yn gallu creu cyfresi fyddai’n gwirioneddol afael,” meddai wrth golwg360.

Cydweithio

“Mae yna dipyn o lyfrau fel hyn yn y Saesneg ac mae ganddyn nhw gysylltiadau hefyd â’r byd ffilmiau a theledu.

“Byddai’n braf petai rhyw fath o gydweithio’n medru digwydd i ddatblygu cymeriadau fel y byddai plant yn ysu i ddarllen cyfresi gan awduron Cymraeg,” meddai.

Llyfrau Harry Potter gan J.K. Rowling yw un o’r enghreifftiau o gyfresi o lyfrau Saesneg i blant sydd hefyd yn cael bywyd arall ar y sgrin.

Straeon hanes

Fe fu’r awdures o Lanilar sydd wedi ennill amryw o wobrau am ei chyfraniad i fyd llyfrau plant, gan gynnwys Tir na n-Og y llynedd, yn rhan o Ŵyl Llên Plant yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Ar hyn o bryd mae Siân Lewis yn gweithio ar ddwy gyfrol yn seiliedig ar hanes a chwedlau Cymru, sef cyfrol am y Brenin Arthur i wasg Rily a chyfrol am frenin y Brythoniaid, Caradog, i wasg Carreg Gwalch.

“Mae’n bwysig i wneud llyfrau am hanes Cymru achos mae yna dipyn o gwyno wedi bod nad ydy plant yn cae digon o hanes Cymru nac yn cael clywed am y cymeriadau,” meddai.

“Dw i’n gobeithio y bydd y straeon yn dal i ysbrydoli plant, fel y cefais i fy ysbrydoli.”

Gŵyl Llên Plant

Dyma’r bumed flwyddyn i Ŵyl Llên Plant Caerdydd gael ei chynnal, ac mae’n para wythnos gyda digwyddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg i ddathlu llyfrau i blant yng Nghymru.

Mae sesiwn arbennig yn cael ei chynnal heno, Mawrth 30, i gofio cyfraniad yr awdur Gareth F. Williams a fu farw ym mis Medi’r llynedd.