Mihangel Morgan. Llun gan Iestyn Hughes
Mae cyfrol newydd gan awdur o Aberdâr yn cywasgu dros drigain o straeon byrion i un gyfrol gyda’r digwyddiadau’n digwydd o fewn awr o amser.

Teitl y gyfrol ydy 60 ac esbonia cyn-ddarlithydd Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth fod ynddi 61 o straeon byrion a’i bod yn “garreg filltir” wedi iddo ddathlu’i ben-blwydd yn 60 oed.

“Cael fy mhen-blwydd yn drigain oed oedd cychwyn y syniad, a meddwl am fy chwaer a fu farw yn 57 oed yn 2002… beth oeddwn i wedi’i wneud gyda’r amser ychwanegol hyn, fel petai, a gefais i?,” meddai Mihangel Morgan.

Y Straeon

Mae’r chwe deg un o straeon yn dynodi munud o amser rhwng 11 a 12 o’r gloch ar stryd fawr mewn tref ddychmygol, nad sy’n annhebyg i Aberystwyth.

“Yn hytrach na chwe deg stori sy’n gwbl annibynnol ar ei gilydd mae ’na ryw fath o berthynas rhyngddyn nhw – maen nhw i gyd yn digwydd o fewn yr un lleoliad mewn gwirionedd,” meddai wrth golwg360.

“Mae ’na amrywiaeth o gymeriadau ac mae eu llwybrau’n croesi, ond mae rhai yn gwbl annibynnol hefyd.

“Mae’n ddiwrnod digon arferol, ond chi’n gorfod darllen y gyfrol i weld pam dw i wedi dewis yr awr honno,” meddai wedyn.

Darn o’r gyfrol

Ag yntau wedi ymddeol a symud yn ôl i Aberdâr lle cafodd ei fagu, bydd lansiad y gyfrol yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Cwm Cynon yn y Rhondda ar Ebrill 21, a’r gyfrol yn cael ei chyflwyno i wasg Y Lolfa sy’n dathlu hanner canrif eleni.

Dyma glip sain o’r awdur yn darllen darn o’r gyfrol sy’n digwydd tua 11:50 y bore…