Mae cyn-olygydd a wrthododd ymgeisio eto am ei swydd gyda Gwasg Gomer, newydd gael ei phenodi yn Swyddog Cyhoeddiadau gydag Undeb yr Annibynwyr.

Yn ei swydd newydd, fe fydd Elinor Wyn Reynolds yn gyfrifol am y Blwyddiadur, Dyma’r Undeb, amrywiol adroddiadau a chofnodion, a llenyddiaeth yr Undeb yn gyffredinol.

At hynny, meddai’r datganiad heddiw, fe fydd yn “cydweithio’n agos gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol fel Cynorthwy-ydd i hybu gweithgarwch ac amrywiol brosiectau’r Undeb”.

Roedd Elinor Wyn Reynolds yn un o wyth o aelodau staff golygu a marchnata gyda Gwasg Gomer a gafodd glywed y byddai’n rhaid iddyn nhw ymgeisio eto am bedair swydd newydd, wrth i’r cwmni ail-strwythuro. Fe benderfynodd yr wyth sefyll gyda’i gilydd a pheidio ag ymgeisio.

Fe fydd yn gweithio o brif swyddfa’r Annibynwyr yn Nhŷ John Penri, Abertawe.