Mae Llenyddiaeth Cymru yn gofyn barn pobol am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn… ond mae’n “annhebygol” y bydd y gystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal eleni.

Ar gyfrif Twitter yr asiantaeth, mae’n dweud bod adolygiad yn digwydd yn dilyn “ansicrwydd am ddyfodol” y gystadleuaeth, ac mae modd i ddarllenwyr roi eu barn .

Ym mis Ionawr, fe gafodd Llenyddiaeth Cymru gyfarfod i drafod dyfodol y wobr, gan benderfynu cynnal adolygiad, a chyhoeddwyd eu bod yn chwilio am “bartneriaid ariannu newydd” i gynnal y digwyddiad.

Mae cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gweld gan lawer o lenorion a darllenwyr fel uchafbwynt y flwyddyn lenyddol yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r adolygiad, a fydd yn edrych ar elfennau trefnu a chyflwyno’r gwobrau, ddod i gasgliadau erbyn diwedd mis Ebrill.

Cystadleuaeth eleni yn “annhebygol”

Gyda seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn fel arfer yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf, a’r gwaith o benodi beirniaid fel arfer eisoes wedi digwydd erbyn yr adeg hon, mae’n “annhebygol” y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn 2017.

Er hynny, does dim cadarnhad swyddogol wedi dod gan Lenyddiaeth Cymru’r naill ffordd na’r llall