Yr Athro Emeritws Derec Llwyd Morgan
Mae angen cofio a dathlu cyfraniad William Williams Pantycelyn, yn ôl arbenigwr ar ei waith sy’n ei alw’n “gawr o artist.”

Mae ei emynau’n parhau ar dafodau pobol hyd heddiw, a chyfrinach Williams Pantycelyn, yn ôl Derec Llwyd Morgan, oedd ei allu i fynegi profiadau pobol.

“Does dim dwywaith gen i mae fe ydy’r llenor mawr Cymraeg o’r cyfnod modern,” meddai’r ysgolhaig sydd wedi astudio gwaith y Pêr Ganiedydd am yn agos at hanner canrif.

“Mi oedd yn wych am roi mynegiant barddonol i brofiadau pobol… ac wedi gallu mynegi enthusiasm y Cymry a hynny mewn ieithwedd oedd yn gymysgedd o dafodiaith sir Gaerfyrddin a Chymraeg croyw Beibl Wiliam Morgan,” meddai.

‘Meddwl a phrofiad’

Esboniodd Derec Llwyd Morgan, sy’n wreiddiol o bentref Cefn-bryn-brain yn Sir Gaerfyrddin, iddo gael ei ddenu at waith William Williams am ddau reswm.

Yn gyntaf, roedd â’i fryd ar fynd i’r weinidogaeth pan oedd yn iau, ac yn ail am iddo astudio’r newid o Biwritaniaeth i Fethodistiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a dod ar draws gwaith Pantycelyn mewn golau newydd.

“Mi welais ei fod yn gawr o artist, nid yn unig yn emynydd, ond yn awdur rhyddiaith, yn awdur epigau, yn gawr o ddyn o ran meddwl a phrofiad.”

Gwrandewch ar Derec Llwyd Morgan yn canu clodydd y Pêr Ganiedydd yn fan hyn: