Alys Conran, awdures Pigeon (Llun: Prifysgol Bangor)
Mae awdures o Fangor ymhlith dwsin o enwau sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.

Mae Alys Conran, sy’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, yn ymuno ag awduron o Ghana, Jamaica, yr Unol Daleithiau, Sri Lanca, Awstralia a Lloegr ar y rhestr hir wrth iddyn nhw gystadlu am y wobr o £30,000.

Caiff y wobr ei dyfarnu i’r darn gorau o waith wedi’i gyhoeddi’n Saesneg, sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau.

Eleni, mae’r rhestr hir yn cynnwys: chwe nofel, pedwar casgliad o straeon byrion, a dwy gyfrol o farddoniaeth.

Mae un o’r llyfrau ar y rhestr eisoes wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2016, a dau arall ymhlith gwerthwyr gorau’r New York Times.