Twm Morys (Llun: Sion Richards)
Mae prifardd yn galw am gefnogaeth pobol amlwg ym myd llenyddiaeth er mwyn achub colofn farddol papur Y Cymro.

Mae’r rheolwyr wedi penderfynu dileu colofn Twm Morys wedi iddo roi’r gorau iddi dros dro – yn awr mae wedi anfon neges at nifer o lenorion eraill yn galw am ymgyrch i’w hachub.

Y golofn yw un o’r rhai hyna’ yn y papur, gyda Twm Morys yn dilyn prifeirdd eraill, gan gynnwys Dewi Emrys ac Alan Llwyd.

‘Bwriadu ailafael’

Esboniodd Twm Morys iddo orfod rhoi’r gorau i gyfrannu at y golofn am gyfnod y llynedd, ond ei fod wedi bwriadu ailafael ynddi ymhen amser.

Mae golwg360 yn deall iddo gysylltu â’r Cymro, sydd yn rhan o gwmni papurau newydd Tindle a dan adain Golygydd Gyfarwyddwr y cwmni yn yr ardal.

Mae’n dweud yn ei neges ebost iddo gael gwybod na fyddai’n bosib ailgyflwyno’r golofn oherwydd ymdrech i gadw’r costau i lawr.

Ond mae hefyd wedi anfon neges at gyfranwyr a dilynwyr cyson y golofn ac yn dweud ei fod wedi cael ymateb ardderchog eisoes – prawf, meddai, fod galw am y golofn.

Costau

Yn ôl Twm Morys, £37.50 yw’r costau wythnosol o gynnal y golofn, ac mae wedi galw ar bobol i ysgrifennu ato i ddangos eu cefnogaeth.

Dywedodd y bydd yntau’n anfon yr ymateb at Olygydd Y Cymro ym Mhorthmadog a Phennaeth y papur yn swyddfa’r Cambrian News yn Aberystwyth.

Ychwanegodd fod “hanes hir ac anrhydeddus i’r Golofn – yr unig Golofn o’i math, mae’n debyg, mewn papur newydd yng ngwledydd Ewrop!”

Rhoi’r gorau – ‘heb esboniad’

Fe ymatebodd Beverly Thomas trwy ddweud fod Twm Morys wedi “rhoi’r gorau i anfon ei golofn farddol wythnosol tua chwe mis yn ôl, heb esboniad”.

“Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ac yn adnewyddu ein holl gynnwys, i sicrhau ein bod yn cynnig i’n darllenwyr yr hyn maen nhw eisiau.

“Rwy’n siŵr bod Twm yn deall ein bod ni’n amlwg yn siomedig bod colofnydd cyson wedi rhoi’r gorau i anfon colofn heb ddim esboniad.”