Mae dau o gyn-feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn wedi dweud wrth golwg360 fod y gwaith o feirniadu gwerth blwyddyn o lyfrau yn gallu bod yn “dipyn o waith” – ac o gofio hynny, ei bod hi’n annhebygol y bydd y gystadleuaeth yn digwydd eleni.

Er mwyn gwobrwyo enillwyr yng nghategoriau nofelau, barddoniaeth a ffeithiol greadigol ym mis Gorffennaf eleni, fe fyddai’n rhaid i dri beirniad ddarllen pob un llyfr a gyhoeddwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016, cyfarfod i drafod, ac yna ddod i benderfyniad.

Gyda chyfarfod yn cael ei gynnal brynhawn heddiw i drafod dyfodol y gystadleuaeth, sydd fel arfer yn cael ei threfnu a’i gweinyddu gan asiantaeth Llenyddiaeth Cymru,

“Tipyn o waith”

Yn ôl y bardd a’r darlithydd, Eurig Salisbury, un o feirniaid y gystadleuaeth yn 2014: “Mae e’n dipyn o waith, mae’r gwaith darllen yn digwydd yn aml yn amser sbâr y beirniaid, ac mae nofelau yn arbennig yn gallu bod yn drwm.

“Mae rhai beirniaid yn cwrdd tua diwedd y cyfnod, ond un o’r pethau wnes i fwynhau fwyaf oedd cwrdd â’m cyd-feirniaid yn eithaf rheolaidd i weld sut oedden ni’n dod ymlaen,” meddai wedyn.

Does dim cadarnhad eto pwy ydy beirniaid Cymraeg na Saesneg y wobr ar gyfer 2017, ac mae Llenyddiaeth Cymru’n cynnal cyfarfod heddiw i drafod “camau nesaf” y wobr.

‘Dibynnol ar amgylchiadau’

Dywedodd un o feirniaid y wobr y llynedd nad oes modd gwybod a fyddai digon o amser bellach i’r beirniaid gyflawni eu gwaith o dan y drefn arferol lle mae’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.

“Mae hynny’n ddibynnol ar amgylchiadau pob beirniad,” meddai Llion Pryderi Roberts, sy’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. “Mae rhai yn llawn amser, rhai wedi ymddeol a rhai’n gweithio’n rhan amser.

“Mae hefyd yn ddibynnol ar natur y gystadleuaeth a pha newidiadau fyddai’n cael eu gwneud.”

Roedd yn cydnabod mai’r “gwaith mawr oedd darllen y llyfrau ar y rhestr hir, ac mi oedd hynny’n digwydd yn achlysurol mewn un ystyr am eu bod yn cael eu cyhoeddi’n achlysurol”.

Ychwanegodd fod y gystadleuaeth yn rhywbeth sy’n rhoi “llwyfan i lenyddiaeth” ac yn “hybu darllenwyr a gwerthiant o fewn y diwydiant ei hun”.