Mae dau o gyn actorion yr opera sebon, Pobol y Cwm, wedi cyhoeddi hunangofiant yr un ar gyfer y Nadolig eleni.

Mae perthynas Hywel Emrys o Gaerfyrddin a Gareth Lewis o’r Felinheli yn mynd yn ôl ymhellach a hwythau wedi cydweithio ar raglenni o sgetsys Torri Gwynt cyn hynny, bu’r ddau’n darllen y newyddion i BBC Radio Cymru am gyfnod hefyd.

Wedi hynny, daeth y ddau’n ffrindiau agos wrth i Hywel Emrys bortreadu Derek Jones ar Pobol y Cwm a Gareth Lewis yn portreadu Meic Pierce.

Colli ei wraig i gancr oedd ysgogiad Hywel Emrys i ysgrifennu ei gyfrol, sef Hunangofiant Dyn Lwcus, tra bo Gareth Lewis wedi ysgrifennu ei gyfrol yntau, Hogyn o’r Felin, er mwyn cofnodi hanes ei deulu, bywyd yr ardal yn ystod yr 1950au a’r profiad o golli ei olwg ac effaith hynny ar ei yrfa.

Daeth y ddau ynghyd i drafod y broses o ysgrifennu eu hunangofiannau gyda golwg360.