Fe fydd cerddi heb eu gweld o’r blaen gan y bardd RS Thomas, yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon.

Mae’r gyfrol sydd dan olygyddiaeth Yr Athro Tony Brown a’r Athro Jason Walford Davies, yn dwyn y teitl Too Brave to Dream: Encounters with Modern Art.

Pan symudodd ail wraig y bardd, Betty Thomas, o’r bwthyn yn Llanfair-yng-Nghornwy yn Ynys Môn, lle y bu’n byw gydag R S Thomas tan ei farwolaeth yn 2000, fe gyflwynwyd llyfrau personol Thomas i archif y Ganolfan.

Fe ddarganfuwyd 36 o gerddi sydd heb eu gweld o’r blaen o eiddo R.S. Thomas yn ymateb weithiau celf  gan Henry Moore, Edvard Munch, Salvador Dalí, René Magritte a Graham Sutherland.

Ymateb i artistiaid

“Mae teitl y gyfrol yn dod o gerdd a luniodd R S Thomas mewn ymateb i un o’r darluniau rhyfeddol hynny gan Henry Moore o bobl yn ceisio lloches yng ngorsafoedd rheilffordd danddaearol Llundain yn ystod y Blitz,” meddai Jason Walford Davies.

“Maen nhw’n gerddi aflonydd, ac aflonyddol, sydd efallai’n dadlennu rhywbeth pwysig ynghylch cyflwr meddwl y bardd yn ystod y cyfnod hwyr hwn yn ei yrfa gyda’r llawysgrifau’n awgrymu bod diddordeb Thomas yn y cerddi hyn wedi parhau hyd ddegawd olaf ei fywyd.”

Yn ôl Tony Brown, “Roedd gan R.S. Thomas, er nad oedd yn ymweld yn gyson ag orielau a chasgliadau celf mawrion, ddiddordeb dwfn mewn celfyddyd weledol drwy gydol ei fywyd”.

“Fe nododd eu mab, Gwydion, sut roedden nhw ill tri yn defnyddio bocsys Elsi o atgynyrchiadau o weithiau celf ar ffurf cardiau post a ddefnyddiodd Elsi ar gyfer ei gwaith dysgu mewn gemau a chwisiau cardiau teuluol. Roedd R.S. felly yn bur wybodus ynghylch artistiaid a mudiadau celf.”