Mae’n bryd dathlu cyfraniad Saunders Lewis i Abertawe, yn ôl academydd blaenllaw fydd yn annerch cynulleidfa wrth i blac glas gael ei ddadorchuddio iddo yn y ddinas.

Yn ôl Robert Rhys, Darllenydd yn Academi Hywel Teifi a Chyfarwyddwr Canolfan Graddedigion Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, “camgymeriad” yw meddwl am gyfnod Saunders Lewis yn y ddinas yn nhermau negyddol.

Bydd plac glas yn cael ei osod ar adeilad Tŷ Newydd ar Stryd Hanover y prynhawn yma, lle treuliodd Saunders Lewis ei flynyddoedd cyntaf ar ôl dod i Abertawe gyda’i dad, oedd yn weinidog.

Cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yn 1922, ond fe gollodd ei waith dan gwmwl yn 1936 yn dilyn helynt llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Dywedodd Robert Rhys wrth Golwg360: “Ry’n ni’n aml yn cysylltu Saunders Lewis ag Abertawe am resymau negyddol – sôn amdano’n gadael y lle a wnawn ar ôl ei ddiswyddo yn sgil Penyberth.

“Ond camgymeriad yw hynny. Mae’n hen bryd dathlu ei flynyddoedd yma a’i ran ym mywyd deallusol cyffrous Abertawe yn y 1920au.

“Mae Saunders Lewis yn ddyn ac yn llenor y dylai Abertawe fod yn falch o’i arddel, ac mae Cyngor y Ddinas i’w llongyfarch am ddechrau gwneud hynny trwy osod plac glas.

“Yn lleol – ac yn enwedig yn genedlaethol – mae ffordd bell iawn gyda ni i fynd.”

Gwaith llenyddol

Tra roedd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yn Abertawe y lluniodd Saunders Lewis ei ddrama Gymraeg gyntaf, ‘Gwaed yr Uchelwyr’.

Yn ôl Robert Rhys, roedd hon yn “[d]drama oedd yn mynd yn groes i’r graen poblogaidd ac yn herio’r gynulleidfa – a byddai hynny’n nodweddiadol o’i safle ym mywyd cyhoeddus Cymru ar hyd ei yrfa.

“Yma y dechreuodd drafod y syniad o blaid annibynnol newydd i Gymru, yma y daeth i’r amlwg fel beirniad llenyddol disglair, y cyntaf o’i fath yn adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru.

“Yn amlwg rwy’n croesawu creu plac i Saunders Leiws ar y safle lle roedd e’n byw yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Abertawe, yn dechrau ar ei yrfa fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, yn ymuno â llif nerthol y ddrama Gymraeg newydd ac yn cyfrannu ato fel adolygydd a dramodydd.”