Mae rhai o ddramâu’r awdur a’r sgriptiwr adnabyddus o Gaerdydd am gael eu rhyddhau unwaith eto eleni i nodi pen-blwydd Andrew Davies yn 80 oed.

Yn wreiddiol o Riwbeina, mae Andrew Davies yn adnabyddus am gyfresi tebyg i House of Cards, Conrad’s War a War and Peace.

Ac o heddiw ymlaen, bydd modd pori trwy gasgliad arbennig o’i ddramâu ar wefan BBC Store.

Ymhlith y dramâu sy’n cael eu rhyddhau o’r newydd mae Is That Your Body, Boy, drama a ysgrifennodd yn 1970 ac nad sydd wedi’i dangos ers hynny.

Gwaith gwreiddiol

Arferai Andrew Davies fod yn athro ysgol, ac yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel dramodydd, daeth yn gymrawd BAFTA yn 2002.

Ar hyn o bryd, mae’n addasu Les Miserables gan Victor Hugo yn gyfres chwe rhan ar gyfer y BBC.

Fel rhan o’r casgliad newydd ar-lein, bydd modd gweld ei waith gwreiddiol yn hytrach na’i addasiadau, ond ni fydd ei ddrama gyntaf i’r BBC, Who’s Going To Take Me On? a ysgrifennodd yn 1967 ar gael – am ei fod wedi mynd ar goll yn archif y gorfforaeth.

“Dw i wrth fy modd ac yn falch iawn,” meddai’r awdur.

“Fe gafodd y rhain eu hysgrifennu gan Andrew Davies oedd dipyn yn iau. Ond yn fwy na dim, rwy’n gyffrous i wybod beth fydd pobol yn meddwl ohonyn nhw.”