Aneirin Karadog - 'cyfraniad pwysig i'n traddodiad heddwch ni' (Llun Golwg360)
Aneirin Karadog o Bontyberem sydd wedi cipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Mae’n un o do newydd o feirdd a llenorion sydd bellach yn ennill y prif gystadlaethau – a’r pedwerydd o’r prif enillwyr llenyddol eleni i fod o dan 40 oed.

Ac, wrth ennill cadair er cof am y cyn Archdderwydd, Dic Jones, roedd Aneirin Karadog wedi cynnwys adleisiau bwriadol o awdl Y Gwanwyn a ddaeth o fewn trwch un o’r rheolau i ennill Cadair 1976 i Dic Jones.

Mae Aneirin Karadog yn hanner Llydawr o ochr ei fam ac yn rhugl mewn Llydaweg hefyd.

Unfryd

Wrth draddodi’r feirniadaeth, eglurodd Tudur Dylan Jones fod naw wedi cystadlu ar y testun Ffiniau, ond bod y tri beirniad yn unfryd fod Aneirin Karadog yn deilwng.

Yn ei feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau, fe ddywedodd fod y dilyniant o gerddi yn ‘gyfraniad pwysig i’n traddodiad heddwch ni’.

Rhwng dwy oedd hi a’r si yw mai’r ail oedd Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaidd ddydd Mercher – gyda cherdd am daith i India … fel y gwnaeth ef mewn taith gyfnewid lenyddol.

Adlais bwriadol

Roedd “adlais bwriadol” o ‘Y Gwanwyn’ gan Dic Jones yng ngherddi’r buddugol, meddai Tudur Dylan  Jones.

Lle’r oedd Dic Jones wedi gweld aderyn heddwch uwch caeau ei fferm yn Aberporth, gweld aderyn angau yr oedd Aneirin Karadog.

Mae eleni hefyd yn hanner can mlynedd ers i Dic Jones ennill y gadair yn Eisteddfod Aberafan 1966 am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’.

“Rydym ni’n gweld safbwyntiau gwahanol yn y cerddi, y tad, y mab, y ceisiwr lloches, y gwleidyddion, ac mae yna adlais bwriadol o awdl ‘Y Gwanwyn’,” meddai Tudur Dylan Jones.

Ysgrifennu creadigol

Mae Aneirin Karadog yn astudio am radd Doethur mewn Ysgrifennu Creadigol yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd ac mae’n wyneb cyfarwydd wedi iddo weithio fe cyflwynydd i raglenni Heno.

Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015 ac mae newydd gyhoeddi ei  ail gyfrol o farddoniaeth, Bylchau.

Mae’r gadair yn cael ei rhoi gan deulu Dic Jones i gofio am y cyn Archdderwydd, gydag Emyr Garnon James wedi’i chreu – athro yn Adran Dylunio a Thechnoleg yn ysgol uwchradd Aberteifi.