Caryl Lewis enillodd y wobr Gymraeg am 'Y Bwthyn'
Mae’r BBC wedi cael eu cyhuddo o ddyrchafu statws gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn uwchlaw’r wobr Gymraeg.

Bu sawl un yn gyflym i ymateb i erthygl ar wefan newyddion Saesneg BBC Cymru oedd yn nodi mai’r ‘top prize’ oedd y wobr Saesneg.

Thomas Morris a enillodd honno, gyda’i gyfrol o straeon byrion We Don’t Know What We’re Doing, gyda Caryl Lewis, am ei nofel Y Bwthyn, yn cipio’r brif wobr Cymraeg.

Fe wnaeth Gohebydd Celfyddydol BBC Cymru, Huw Thomas, drydar neges i’r erthygl gan ail-adrodd y teitl Saesneg, ‘Llyfr y Flwyddyn Cymru: Thomas Morris yn ennill y brif wobr’.

Ymatebodd un o gyn-feirniaid y wobr, Lowri Haf Cooke, gan holi “ai’r wobr Saesneg sydd flaenaf? Mae Caryl Lewis ‘di cyflawni union ‘run gamp…”

Mewn ymateb i’w chwestiwn, fe ddywedodd Huw Thomas, “i’r (g)wasanaeth Saesneg, ydy…”

“Hybu dealltwriaeth ddiwylliannol”

Un o’r rhai eraill a fu’n chwyrn ei ymateb i neges drydar Huw Thomas oedd yr Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth.

“Anghytuno’n gryf iawn, Huw. Nid gwaith y BBC ydi eithrio cynulleidfa Saesneg rhag gwybod am y Gymraeg,” meddai.

“Angen hybu dealltwriaeth (d)diwylliannol, heb sôn am roi gwasanaeth i’r siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio/gwrando ar raglenni Saesneg.”

Mae’r erthygl ar wefan newyddion Saesneg y BBC yn nodi mai Caryl Lewis a enillodd y brif wobr Gymraeg hefyd, ond mewn dwy frawddeg yn unig.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Yn y stori Saesneg ar wefan BBC News ar-lein, mae BBC Cymru yn cyfeirio at Thomas Morris a Caryl Lewis, sydd wedi ennill y ddwy brif wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Mae lluniau o’r awduron buddugol i’w gweld yn y darn”.