Bydd Lowri Haf Cooke yn lansio ei chyfrol newydd Caffis Cymru yng Ngwŷl Tafwyl, Caerdydd nos Sul yma.

Mae’r gyfrol newydd yn agor cil y drws ar hanner cant o gaffis led-led Cymru sydd â rhywbeth go arbennig yn eu cylch.

Ar hyd a lled Cymru mae yna gyfoeth o gaffis gwahanol at ddant pawb. Y tu ôl i bob tebot a cafetière ceir trysorfa o hanes lleol a straeon personol.

Yn ôl Lowri Haf Cooke “Ar hyd y blynyddoedd mae’r caffi Cymreig ar ei wahanol weddau wedi bod yn fan cyfarfod a thrafod poblogaidd. O dai coffi’r 18fed a’r 19eg ganrif, tai te oes Fictoria, y caffis Bracchi, hyd at y tafarndai llaeth; maent i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Cymru.

“Ystyriwch y rôl y chwaraeodd yr Homé Cafe cyn protest Pont Trefechan, neu effaith ysgytwol y geiriau ‘Caffi Ffortisimo’ ar Jeifin Jenkins! A pheidiwch ag anghofio ‘Pat a Janet ac Elsi a Glen’, sêr cân Tony ac Aloma, ‘Caffi Gaerwen’.”

Mae Lowri Cooke wedi canfod fod cenhedlaeth newydd o gaffis wedi dod i’r amlwg, fel yr eglurodd, “Erbyn troad y mileniwm, disodlwyd nifer o gaffis lleol gan gewri rhyngwladol y stryd fawr.

“Ond ers rhai blynyddoedd bellach, bu tro ar fyd, wrth i’r ffasiwn droi ’nôl at gaffis annibynnol, tai te, a choffi crefft. Ac fel y darganfyddais ar fy nheithiau, ceir croesbeilliad newydd sbon – y caffi-bwyty-delibecws-bar.”

Ffefryn

“Beth bynnag yw’ch barn am eich hoff gaffi chi, rydych chi’n siŵr o ganfod ffefryn newydd yma,” meddai Lowri Haf Cooke wedyn.

“Mae hon yn gyfrol i bawb, ac ar ddiwedd y dydd, does dim angen gwario ffortiwn er mwyn mwynhau yn yr un o’r caffis hyn. Felly estynnwch am baned, ymgollwch ynddi a threfnwch wibdaith ar eich cyfer chi eich hun!”