Y tri enillydd, Valériane Leblond, chwith, Siân Lewis, a Llŷr Titus
Mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cyhoeddwyd mai’r awdures Siân Lewis a’r darlunydd Valériane Leblond yw enillwyr gwobr categori cynradd Tir na n-Og am eu cyfrol i blant gan wasg Rily, Pedair Cainc y Mabinogi.

 

A’r awdur ifanc o Ben Llŷn, Llŷr Titus, ddaeth i’r brig yng nghategori uwchradd y wobr gyda’i nofel antur i’r arddegau, Gwalia, sy’n cael ei chyhoeddi yng nghyfres Strach gan wasg Gomer.

Eleni, mae gwobrau Tir na n-Og yn ddeugain oed, ac fe gafodd ei sefydlu gan Gyngor Llyfrau Cymru er mwyn gwobrwyo awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc.

Stori ‘ffres, newydd ac amserol’


darlunydd Valériane Leblond Llun: Cyngor Llyfrau Cymru
Dywedodd Eirian James, cadeirydd y panel beirniadu bod cyfrol Siân Lewis a Valériane Leblond yn “gyfanwaith hyfryd, gyda’r storïau wedi’u hadrodd yn syml ond yn raenus, ac mae’r darluniau’n cyfleu naws y storïau yn wych.”

Mae Llŷr Titus hefyd yn enw adnabyddus ac, ym mis Ionawr eleni enillodd wobr y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg yng ngwobrau Theatr Cymru am ei ddrama Drych gan Gwmni’r Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd, yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor a dywedodd, “pan ges i’r cynnig i sgrifennu nofel i’r grŵp oedran hwn, dyma feddwl beth yr hoffwn i fod wedi’i ddarllen pan oeddwn i’r un oed.”


Llŷr Titus, enillydd Gwobr y Categori Uwchradd Tir na n-Og 2016 Llun: Cyngor Llyfrau Cymru
Dywedodd ei fod wedi darllen mwy o lyfrau Saesneg na Chymraeg pan oedd yn iau, “am fod nofelau Saesneg yn trafod pethau a oedd yn ddifyrrach i mi. Does yna ddim digon o’r math yma o beth yn y Gymraeg ac felly dyma feddwl datrys mymryn ar hynny,” meddai.

Dywedodd Eirian James fod ei nofel, Gwalia, “yn stori ffres, newydd, amserol, wedi’i sgwennu’n dda ac yn cynnal diddordeb y darllenydd o bennod i bennod.”