Cyfle o'r diwedd i chi brofi unwaith ac am byth pa un o'ch ffrindiau chi'n sy'n gwybod fwyaf am y tim cenedlaethol (llun:Y Lolfa)
Rydyn ni wedi cael y caneuon di-ri, y siartiau wal a’r sticeri Panini – a nawr mae llyfr cwis newydd wedi cael ei chyhoeddi er mwyn dathlu lle Cymru yn Ewro 2016.

Mae David Collins yn un o gefnogwyr selog y tîm cenedlaethol, ac ar ôl cael ei ysbrydoli gan orchestion y genhedlaeth bresennol o chwaraewyr mae wedi mynd ati i ysgrifennu’r ‘Welsh Football Quiz Book’.

Yn y llyfr, sydd wedi’i chyhoeddi gan Y Lolfa, mae ugain set o gwestiynau am bob math o bynciau gan gynnwys Gareth Bale, tîm 1958, y Cymry gafodd eu geni dramor, a’r diweddar Gary Speed.

“Dyma’r llyfryn perffaith i hyd yn oed y dilynwyr mwyaf brwdfrydig a theyrngar i weld faint yn union maen nhw’n ei wybod am stori’r Dreigiau Coch,” meddai’r awdur.

Felly beth am i chi roi cynnig ar ambell o’r cwestiynau heriol a haws sydd yn y llyfryn? Dyma ddetholiad o ugain ohonynt gennym ni!