Yr awdur Jon Gower
Wrth groesawu’r cyhoeddiad na fydd cyllideb y Cyngor Llyfrau  yn cael ei thorri wedi’r cwbl, mae awdur blaenllaw wedi rhybuddio nad yw’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ddiogel eto.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Ken Skates, yn y Senedd heddiw y bydd cyllid y Cyngor Llyfrau yn aros ar yr un lefel ar gyfer 2016/2017.

Roedd y Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad 10.6% yn ei gyllideb.

Cyn y cyhoeddiad newydd, bu rhai o gyhoeddwyr ac awduron Cymru yn cynnal cyfarfod briffio yn y Senedd i fynegi’u pryderon am y toriad, gan gynnwys Jon Gower.

“Bydden i ddim yn dweud fy mod i’n dathlu,” meddai, “ond rwy’n croesawu bod gwleidydd yn gallu bod yn ddigon aeddfed i newid ei feddwl.

“Ges i’n synnu bod yna gymaint o gefnogaeth, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna gymaint o awduron mas ‘na.

“Nid buddugoliaeth yw e ond mae’n fuddugoliaeth i aeddfedrwydd.”

‘Alla’i ddim dweud bod pethau’n saff’

Dyw Jon Gower ddim yn argyhoeddedig fod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ddiogel eto.

“Rydyn ni’n dal i gystadlu â Lloegr, mae’r ganolfan ddosbarthu (llyfrau) yn Aberystwyth yn cystadlu â chewri fel Amazon yn Abertawe – mae yna broblemau gyda llythrennedd, mae llai o bobol yn darllen, felly dydy hi ddim yn hawdd.”

Er hyn, dywedodd fod y diwydiant yn wynebu ‘cyfleoedd’ gyda’r angen am ragor o lyfrau Cymraeg i wahanol garfanau o bobol.

“Mae gen i ferch sy’n 10 mlwydd oed, a falle does dim digon o lyfrau Cymraeg iddi hi. Mae angen rhagor o lyfrau i ddysgwyr, mae angen rhagor o lyfrau i bobol yn eu harddegau le mae eu diddordeb nhw mewn llyfrau yn crebachu.

“Felly dwi’n rhoi croeso twymgalon i’r cyhoeddiad heddi ond alla’i ddim dweud bod pethau’n saff o ran llyfrau achos dyw e ddim.”

‘Cefnogaeth ysgubol’

Fe fu croeso brwd i’r cyhoeddiad gan y Cyngor Llyfrau, Aelodau Cynulliad ac awduron.

Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones: “Mae’r gefnogaeth gyhoeddus i’r diwydiant wedi bod yn ysgubol, mae’n dysteb i’r holl waith caled a wnaed gan bawb yn y sector.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Llywodraeth ac i Ken Skates yn benodol, am eu parodrwydd i wrando ac i ymateb yn y ffordd yma. Mae hyn yn rhyddhad mawr i’r Cyngor.

“Mewn cyfnod o gynni rydym yn gwerthfawrogi hyder y Llywodraeth yn ein gwaith a byddwn yn mynd ati’n egnïol i gefnogi’r diwydiant ac i hyrwyddo llyfrau yn y ddwy iaith.  Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymdrech i ganfod ffynonellau ariannol eraill i gynnal a datblygu’n gwaith.”

‘Croesawu tro pedol’

Dywedodd Elin Jones AC Plaid Cymru: “Mae’r tro pedol yma gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych i gyhoeddwyr a’r ystod eang o bobl sydd ynghlwm â’r maes llenyddol ac argraffu.

“Byddai toriad o’r maint a fwriadwyd wedi cael effaith andwyol ar y Cyngor Llyfrau ac ar gyhoeddwyr trwy Gymru.

“O ystyried awduron, siopau llyfrau, a dylunwyr a golygyddion llawrydd mae’r diwydiant cyhoeddi yn sector bwysig iawn.

“Rwy’n mawr groesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd y diwydiant yma. Rwy’n llongyfarch yr holl awduron a chyhoeddwyr sydd wedi arwain ymgyrch wych ar y pwnc yma.”

Ymateb ar Twitter

Dim toriadau i gyllid y Cyngor Llyfrau gan y Cynulliad yn 2016/17 ..tro bedol gan Llafur, diolch byth!

— Alun Cob (@AwdurAlunCob) January 20, 2016

Llongyfarchiadau @llyfraucymru a phawb! Prawf fod y diwydiant cyhoeddi yn stori llwyddiant ac yn haeddu pob dimai o arian cyhoeddus #tegwch

— Gwerfyl Pierce Jones (@gwerfylpj) January 20, 2016

Dim toriad i grant @LlyfrauCymru yn 2016/17 yn dilyn lobio ac ymgyrchu. Newyddion ardderchog i awduron, cyhoeddwyr a diwylliant fyw Cymru!

— Y Lolfa (@YLolfa) January 20, 2016