Dylan Thomas
Mae enwau’r 12 sydd wedi cyrraedd Rhestr Hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas wedi cael eu cyhoeddi.

Ar y rhestr eleni mae awduron o bedwar ban y byd, o Gaerffili i’r Unol Daleithiau, ac mae dau o’r gweithiau – The Fishermen gan Chigozie Obioma a The Year of Runaways gan Sanjeev Sahota – eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy gyrraedd rhestr fer Gwobr Man Booker y llynedd.

Mae pedwar awdur o’r Unol Daleithiau ar y rhestr, nofelydd o Nigeria, bardd o Fanceinion ac awdures o Iwerddon.

Cafodd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ei lansio yn 2006 i wobrwyo ysgrifenwyr ifainc, ac fe fydd yr enillydd eleni’n derbyn £30,000.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ysgrifennwr o dan 39 oed sydd wedi llunio gwaith sydd wedi’i gyhoeddi neu ei gynhyrchu yn Saesneg.

Bydd y rhestr hir yn cael ei thorri yn ei hanner ym mis Mawrth cyn i’r enillydd terfynol gael ei ddewis a’i gyhoeddi ar Fai 14, sef Diwrnod Dylan Thomas.

Ymhlith y beirniaid eleni mae’r Athro Owen Sheers, Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, a’r Athro Dai Smith, Athro Hanes Diwylliannol Cymru yn y brifysgol.

Prifysgol Abertawe sy’n noddi’r wobr.

‘Wow!’

Dywedodd yr Athro Dai Smith, sy’n cadeirio’r panel beirniaid: “Wow! Mae’r rhestr hir yn mynd y tu hwnt i bob disgwyliad yn ei ystod o genres ac ansawdd syfrdanol yr ysgrifennu.

“Yr unig sicrwydd ar hyn o bryd yw y bydd gan y beirniaid restr fer eithriadol o gryf yn y pen draw, gyda chwe awdur dawnus tu hwnt.”

Ychwanegodd sylfaenydd a llywydd y wobr, yr Athro Peter Stead: “Nod sefydlu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas oedd sicrhau cyswllt Cymraeg gyda’r ffenomen fyd-eang fawr o ysgrifennu Saesneg cyfoes, ac o’r cychwyn cyntaf, mae’r Wobr wedi denu ceisiadau o bob cyfandir.

“Mae hon yn mynd i fod yn flwyddyn i’w chofio ac ry’n ni’n annog pawb i ddarllen y llyfrau arbennig yma.”

Y rhestr hir yn llawn:

Claire-Louise Bennett, Pond (Fitzcarraldo Editions)

Garth Risk Hallberg, City on Fire (Jonathan Cape)

Tania James, The Tusk that did the Damage (Harvill Secker; Alfred A. Knopf)

Frances Leviston, Disinformation (Picador)

Lisa McInerney, The Glorious Heresies (John Murray)

Andrew McMillan, Physical (Jonathan Cape)

Thomas Morris, We Don’t Know What We’re Doing (Faber & Faber)

Chigozie Obioma, The Fishermen (ONE, Pushkin Press)

Julia Pierpont, Among the Ten Thousand Things (Oneworld)

Max Porter, Grief is the Thing with Feathers (Faber & Faber)

Sanjeev Sahota, The Year of the Runaways (Picador)

Laura van den Berg, Find Me (Farrar, Straus & Giroux)