Elin Jones AC gydag awduron a chyhoeddwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw
Ni fydd cyllideb y Cyngor Llyfrau  yn cael ei thorri wedi’r cwbl, yn dilyn pwysau cynyddol gan gyhoeddwyr ac awduron.

Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Ken Skates, y cyhoeddiad yn y siambr yn y Senedd heddiw, gan ddweud y bydd cyllid y Cyngor Llyfrau yn aros ar yr un lefel ar gyfer 2016/2017.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu ei ostyngiad arfaethedig ar gyllid Cyngor Llyfrau Cymru, ac o ystyried yr effaith bydd hyn yn ei gael ar y diwydiant cyhoeddi, penderfynwyd y dylai ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf aros ar yr un lefel a’r flwyddyn hon,” meddai wrth Aelodau Cynulliad.

Roedd y Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad o £374,000 mewn cyllideb gwerth £3,526,000, sef 10.6%.

Ddoe, fe anfonwyd llythyr gyda bron 300 o lofnodion gan awduron ac ysgolheigion Cymraeg at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon am y toriadau. Roedd llythyr â 200 o lofnodion ar ran awduron Saesneg Cymru eisoes wedi’i anfon.

Croesawu tro pedol

Bu cyfarfod yn y Senedd heddiw, a oedd wedi cael ei alw gan Elin Jones AC, lle be awduron a chyhoeddwyr ag Aelodau Cynulliad yn trafod effaith y toriadau ar y diwydiant argraffu ac ar lenyddiaeth.

“Mae’r tro pedol yma gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych i gyhoeddwyr a’r ystod eang o bobl sydd ynghlwm â’r maes llenyddol ac argraffu,” meddai Elin Jones.

“Byddai toriad o’r maint a fwriadwyd wedi cael effaith andwyol ar y Cyngor Llyfrau ac ar gyhoeddwyr trwy Gymru.

“O ystyried awduron, siopau llyfrau, a dylunwyr a golygyddion llawrydd mae’r diwydiant cyhoeddi yn sector bwysig iawn.

“Rwy’n mawr groesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd y diwydiant yma. Rwy’n llongyfarch yr holl awduron a chyhoeddwyr sydd wedi arwain ymgyrch wych ar y pwnc yma.”

‘Cefnogaeth ysgubol’

Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones: “Mae’r gefnogaeth gyhoeddus i’r diwydiant wedi bod yn ysgubol, mae’n dysteb i’r holl waith caled a wnaed gan bawb yn y sector.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Llywodraeth ac i Ken Skates yn benodol, am eu parodrwydd i wrando ac i ymateb yn y ffordd yma. Mae hyn yn rhyddhad mawr i’r Cyngor.

“Mewn cyfnod o gynni rydym yn gwerthfawrogi hyder y Llywodraeth yn ein gwaith a byddwn yn mynd ati’n egnïol i gefnogi’r diwydiant ac i hyrwyddo llyfrau yn y ddwy iaith.  Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymdrech i ganfod ffynonellau ariannol eraill i gynnal a datblygu’n gwaith.”

Ymateb ar Twitter

Rhagor i ddilyn…