Mae llenor 24 oed o Abertawe wedi dweud wrth Golwg360 mai’r diweddar Nigel Jenkins oedd ei hysbrydoliaeth wrth iddi fynd ati i lunio’r stori fer fuddugol mewn cystadleuaeth genedlaethol eleni.

Natalie Ann Holborow yw enillydd Gwobr Robin Reeves eleni, er cof am olygydd cyfnodolyn y New Welsh Review.

Daeth Natalie i’r brig am ei stori fer ‘The Bees’, sydd bellach wedi’i chyhoeddi yn y gyfrol ‘How to Get Out of a Burning Building’.

Derbyniodd hi wobr o £500 mewn seremoni arbennig brynhawn Sul.

Eve Moriarty oedd yn ail ac mae hi’n derbyn £100, tra bod Mari Ellis Dunning yn derbyn £50 am ddod yn drydydd.

Wrth iddi baratoi i dderbyn ei gwobr, siaradodd Natalie Ann Holborow â Golwg360.

Beth mae’n ei olygu i chi ennill Gwobr Robin Reeves?

Mae ennill Gwobr Robin Reeves yn syrpreis ac yn anrhydedd. Rwy mor gyffrous fod cymaint o gefnogaeth fel hyn i awduron ifainc yng Nghymru – mae gan y byd llenyddol yng Nghymru ystod mor eang o leisiau unigryw a chystadlaethau fel yr un hon i roi cyfle gwerthfawr i ni. Mae gen i barch mawr tuag at y beirniad Rachel Tresize ac mae ei gwaith yn ddylanwad mawr arna i, ac fe wnes i ganolbwyntio ar ei gwaith hi yn un o’r modiwlau ar gyfer fy MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Felly, mae cael fy ystyried [ar gyfer y wobr] wedi fy ngwneud i’n bositif ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd wedi rhoi hwb i’r coffrau i brynu gwin, ond mater arall yw hynny!

Dywedwch ragor am eich darn buddugol, ‘The Bees’.

Fe ddywedodd Nigel Jenkins, fy narlithydd barddoniaeth ac athro a bardd gwych, mai’r cyngor gorau gafodd e erioed oedd “Ysgrifennwch am yr hyn rydych chi’n gwybod amdano”, a’r cyngor hwnnw gan Seamus Heaney. Felly dyna wnes i. Es i ati i ysgrifennu am y gymuned Gymreig y ces i fy magu ynddi – rwy’n dod o gyrion Abertawe lle mae’n ymddangos bod pawb yn nabod pawb. Gan fy mod i’n dawel yn yr ysgol, roedd pobol yn cymryd, os nad oeddech chi’n siarad, nad oeddech chi’n clywed chwaith. Wrth gwrs, roedd y gwrthwyneb yn wir, ac fe ddysgais i dipyn am fywydau anodd y plant hynny oedd yn aml yn ymddangos yn greulon. Ers hynny, rwy wedi dechrau rhoi llais i’r bobol hynny, er nad o’n i’n deall eu gweithredoedd, ond o leiaf ro’n i wedi gallu osgoi dal dig, gan nad oedd ganddyn nhw garedigrwydd yn eu bywyd cartref. Ro’n i’n ystyried fy hunan yn ffodus yn hynny o beth – er y ces i fy mwlio yn yr ysgol gan y bobol hynny, ro’n i’n gwybod fod gen i deulu cariadus gartref. Efallai bod cymeriad Jonty yn y stori yn cwmpasu popeth oedden nhw fel plant yn eu harddegau ac er ei fod yn ymddangos yn gymeriad peryglus wrth i fi ysgrifennu amdano, ro’n i’n gweld rhyw dristwch mawr ynddo fe hefyd.

Rydych chi eisoes wedi ennill gwobr arall eleni, sef Gwobr Terry Hetherington, gyda cherdd ‘Blood Sugar’ am glefyd y siwgr. A fyddech chi’n dweud bod ysgrifennu i chi’n brofiad gathartig, neu a yw’n bwysicach codi ymwybyddiaeth o ystod o faterion?

Yn wir, gall ysgrifennu fod yn gathartig ac rwy wedi cael ymdeimlad o iachâd ar hyd y blynyddoedd, fel y mae nifer o bobol eraill yn y gymuned farddoniaeth, yn enwedig y rheiny sy’n dioddef o salwch meddwl. Rwy’n codi ymwybyddiaeth o glefyd y siwgr drwy’r darn unigol hwnnw, ond nid dyna fy mwriad o’r cychwyn. Yn wreiddiol, ysgrifennais i’r darn ar un o’r diwrnodau hynny lle’r o’n i’n teimlo dan straen oherwydd pethau eraill ac roedd clefyd y siwgr yn gwneud i fi deimlo’r angen i fwrw ’mhen yn erbyn wal frics. Ro’n i am ddweud pethau fel roedden nhw, heb guddio unrhyw beth, heb ddal yn ôl, gan gyflwyno’r dicter pur a’r emosiwn sydd mor aml yn cael ei sgubo o’r neilltu. Dw i ddim yn dweud ei fod yn rhywbeth dw i’n cwyno o hyd amdano fe, gan fy mod i’n byw bywyd eithaf normal, ond weithiau mae’n dipyn o boendod ac ysgrifennu, yn aml iawn, yw fy rhyddhad. Mae’n anodd dweud yn blwmp ac yn blaen fod “barddoniaeth yn gatharsis” neu’n “ffordd o godi ymwybyddiaeth”. Mae’n well gen i feddwl am y peth fel datgelu darn o’ch hunan i’r byd, bron iawn fel dadorchuddio croen amrwd.

Ewch â ni nôl i’r dechrau. O blae daeth eich diddordeb mewn ysgrifennu creadigol?

Trwy ddarllen, fel cynifer o bobol eraill! Syrthiais i mewn cariad dros fy mhen a ’nghlustiau gyda Roald Dahl, heb edrych yn ôl. Ro’n i am ysgrifennu. Felly dyna wnes i. Ysgrifennais i stori crap pan o’n i tua 7 oed am dedi bêr oedd wedi cwympo allan o’r ffenest yn syth i ganol y mwd ac fe gafodd e amser caled wrth ddod i delerau â’r ffaith y byddai’n rhaid iddo fe fynd i’r peiriant golchi. Chafodd honno mo’i chyhoeddi!

Rydych chi’n gyfrifol am gynnal nosweithiau perfformio llenyddiaeth ‘Mad as Birds’ yn Abertawe. Sut ddechreuodd y rheiny?

Rwy wrth fy modd yn mynd i nosweithiau meic agored ac yn hoff o’r ymdeimlad cadarn o gefnogaeth o fewn y gymuned lenyddol yn Abertawe. Ro’n i am roi dewis i bobol fynd i’r fath nosweithiau ar benwythnosau hefyd, fel bod pawb yn gallu cymryd rhan. Ces i wahoddiad ar y dechrau i gynnal digwyddiad gyda Ben Jenkins, un o sylfaenwyr y nosweithiau meic agored ar gyfer beirdd, ac fe dyfodd o’r fan honno mewn gwirionedd. Y flwyddyn nesaf, rwy’n awyddus i ychwanegu elfen o gerddoriaeth i’r nosweithiau gan fy mod i wedi gweld yn ddiweddar bod barddoniaeth a cherddoriaeth yn plethu’n dda yn ystod y nosweithiau. Mae gyda ni feirdd sy’n dod i ganu, neu’n darllen i gyfeiliant cerddoriaeth. Un tro, fe gawson ni ddarlleniad i gyfeiliant y gitâr gan gerddor lleol, ac roedd hynny’n hyfryd. Ry’n ni hefyd wedi cael darlleniadau mewn ieithoedd tramor.

Mae hi’n noson ysgafn, ac rwy wrth fy modd yn eu cyflwyno nhw a gwylio pobol yn dod yn fwy hyderus bob tro maen nhw’n darllen. I fi, mae mwy o bleser yn hynny na darllen fy ngwaith fy hunan. Rwy wrth fy modd yn cyflwyno ac annog pobol eraill a gweld y gwahaniaeth mae’n ei wneud iddyn nhw dros gyfnod o amser.

Pa mor bwysig yw’r fath nosweithiau i gynnal y byd barddoniaeth yn Abertawe?

Eithriadol o bwysig. Oni bai am noson farddoniaeth hynod boblogiaidd ‘Howl’ yn Abertawe, fyddwn i erioed wedi codi ar fy nhraed i ddarllen o flaen cynulleidfa. Byth bythoedd. Mewn gwirionedd, ar noson y darlleniad cyntaf hwnnw dair blynedd yn ôl, ro’n i mor nerfus nes i fi lowcio potel o Cava rhad yn y gawod a bron iawn i fi fod yn rhy feddw i ddarllen y geiriau! Ond mae’r nosweithiau hyn yn parhau i gefnogi, meithrin a datblygu cymaint o angerdd ac rwy wedi gweld pobol ddawnus a llwyddiannus yn ein tref – ein ‘lovely, ugly town’ – o ganlyniad i’r gymuned lenyddol hyfryd hon. Rydyn ni wir yn lwcus yn hynny o beth.

Chi yw awdur preswyl Cartref Dylan Thomas, 5 Cwmdonkin Drive. Faint o ysbrydoliaeth fu’r cyfrifoldeb hwnnw i’ch gwaith chi?

Nid yn unig mae fy rôl yng Nghartref Dylan Thomas wedi fy ysbrydoli, ond mae wedi cynnal fy nghariad at eiriau Dylan ac mae wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobol ryfeddol. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn Cwmdonkin Drive i gadw hud a lledrith Dylan yn fyw a thrwy weithdai, darlleniadau a marathon ffotograffiaeth y llynedd, fe wnes i gwrdd â chynifer o bobol ddiddorol a chreadigol o bob oed. Ddoe, fe gawson ni ddigwyddiad Nadoligaidd lle perfformiodd Mark Montinaro ei fersiwn yntau o’r stori ‘A Child’s Christmas in Wales’ ac roedd hynny, yn syml iawn, yn drydanol. Roedd sŵn y geiriau wedi cyfareddu’r dorf, oedd yn hollol fud.  Wnes i gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol gyda’r plant ac roedd hynny’n hyfryd. Rwy wrth fy modd yn gweithio gyda phobol ifanc, gan chwarae rhan yn nyfodol creadigol disglair Abertawe! Mae gan blant ddychymyg gwych. Dylen nhw gael eu hannog i ddal eu gafael ar hynny cyhyd ag y bo modd, ac i fod yn driw iddyn nhw eu hunain. Ces i fy mwlio yn yr ysgol am fy mod i’n hoffi darllen llyfrau, ond rwy mor ddiolchgar fy mod i wedi dal ati a bwrw ymlaen beth bynnag amdanyn nhw. Trueni nad yw hynny’n wir am bob plentyn… ddylai neb gael ei orfodi i newid am nad yw’n cydymffurfio â’r hyn sy’n cŵl.

Ar ôl blwyddyn brysur, beth sydd nesaf i chi?

Heblaw am sobri (ar ôl parti Nadolig)?! Byddwn i wrth fy modd pe bawn i’n gallu cael golygydd ar gyfer fy nghyfrol gyntaf o farddoniaeth y flwyddyn nesaf, yn ogystal â gorffen drafft cyntaf fy nofel. Fel arall, bydda i’n parhau i weithio’n galed, rhedeg yn galed, annog pobol i fynd ati i rannu eu hegni creadigol gyda’r byd a threulio amser yn mwynhau pob munud gyda’r bobol rwy’n eu caru.

Diolch yn fawr am y sgwrs, a phob llwyddiant yn 2016.

Mae modd darllen gwaith buddugol Natalie Ann Holborow, ‘The Bees’ yn y gyfrol ‘How to Get Out of a Burning Building’ (Parthian).

Stori: Alun Rhys Chivers