T Llew Jones
Mae un o nofelau clasurol T Llew Jones wedi cael ei chyfieithu i’r Saesneg er mwyn nodi canmlwyddiant ei eni eleni.

Fe aeth yr awdures Catrin Gerallt ati i gyfieithu’r nofel i blant, Trysor y Môr Ladron ar ôl sylwi nad oedd llawer o’i lyfrau wedi cael eu cyfieithu wrth iddi baratoi at wneud rhaglen amdano i Radio Wales.

“Roeddwn i’n meddwl y byse’n dda i bobol ddi-Gymraeg allu dysgu mwy am T Llew,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n sicr yn haeddu cynulleidfa fwy eang achos mae e mor dalentog, mae ei ddychymyg e mor fyw ac mae’r ffordd mae e’n ysgrifennu i blant yn wych.”

Dim ond dwy nofel arall T Llew Jones sydd wedi cael eu cyfieithu – Tân ar y Comin, i gyd-fynd â’r ffilm a Lleuad yn Olau, y ddau ryw ugain mlynedd ôl.

Nofel hanesyddol wedi ‘dyddio llai’

Yn ôl Catrin Gerallt roedd dewis pa nofel i’w chyfieithu o’r toreth oedd gan T Llew dan ei het yn dipyn o gamp.

Ond Trysor y Môr Ladron aeth â hi yn y diwedd am ei bod yn “nofel gyffrous ac ar bwnc difyr iawn oedd yn siŵr o apelio o hyd”.

“Maen nhw’n nofelau gwych,” meddai am waith T Llew. “Maen nhw’n symud mor gyflym, mae yna gymaint o ddrama, cymaint o droeon trwstan ac o drwch blewyn o ni’n meddwl bod Trysor y Môr Ladron ychydig bach yn fwy cyffrous na Barti Ddu.”

Mae Captain Morgan and the Pirate Treasure bellach wedi cyrraedd y siopau ac mae Catrin Gerallt yn dweud y byddai wrth ei bodd yn cyfieithu mwy o waith yr awdur enwog.