Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi mai cwmni O’r Pedwar Gwynt sydd wedi cael y grant o £20,000 y flwyddyn i gyhoeddi cylchgrawn llenyddol tan 2019.

Bydd y cylchgrawn newydd yn cymryd lle’r cylchgrawn Taliesin ac yn cael ei olygu gan Sioned Puw Rowlands ac Owen Martell, gyda Mari Siôn yn Rheolwr Golygyddol a Chynhyrchydd. Mae’r fenter newydd wedi ei sefydlu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, gyda’r bwrdd yn cael ei gadeirio gan Yr Athro Angharad Price.

Dywedodd Robat Arwyn, Cadeirydd y Panel Cyfweld a Chadeirydd Panel Grantiau Cyhoeddi Cymraeg y Cyngor Llyfrau: “Roedd yn braf iawn derbyn dau gais o’r safon uchaf a hynny gan ddwy fenter newydd.”

Ychwanegodd:  “Cawsom ein cyffroi gan gais O’r Pedwar Gwynt a oedd yn gyfuniad bywiog o gylchgrawn print a deunydd digidol ychwanegol ar-lein. Fel cwmni newydd roeddynt hefyd wedi rhoi sylw arbennig i strwythur y fenter newydd a’r gefnogaeth weinyddol ac ymarferol a oedd ei hangen i sicrhau llwyddiant.

“Credwn yn gryf fod cyfle o’r newydd i roi sylw haeddiannol i’n llenyddiaeth mewn cylchgrawn bywiog fydd â’r nod o ymestyn at gynulleidfa newydd.”

Yr aelodau eraill o fwrdd rheoli O’r Pedwar Gwynt  fydd Jon Gower, Llŷr Gwyn Lewis, Eirian James, Carl Morris a Lefi Gruffudd. Sicrhawyd cefnogaeth Gwyneth Lewis, Gwyn Thomas a Ned Thomas; cwmni cysylltiadau cyhoeddus Four Cymru a Wales PEN Cymru.

Y bwriad yw cyhoeddi’r rhifyn cyntaf erbyn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.