Gareth Miles
Straeon am swyddogion yr heddlu cudd Prydeinig a rhannwr gwybodaeth Wikileaks sydd wedi ysbrydoli nofel newydd Gareth Miles, 
Cuddwas.

Mae’r nofel yn dilyn hanes Elwyn Lloyd-Williams, a fagwyd ar aelwyd barchus a gwladgarol yn Radur ger Caerdydd, yn fab i ŵr busnes llwyddiannus. Er mwyn osgoi swydd ddiflas yn un o gwmnïau ei dad, mae’r Cymro ifanc yn ymuno â Heddlu’r Met. Maen nhwthau’n manteisio ar ei ddoniau creadigol drwy ei ddyrchafu’n gyflym trwy rengoedd rhai o’u hasiantaethau ‘cudd’.  

Mae’n cael ei arwain gan droeon ei yrfa i blith gangsteriaid y ‘Costa del Crime’ yn ne Sbaen, at genedlaetholwyr milwriaethus yng Ngwlad y Basg ac at rai diniweitiach yng Ngwynedd. Mae Elwyn yn byw sawl bywyd ac yn guddwas meistrolgar wrth ei grefft. Ond a fydd yn llwyddo i gadw’i wahanol fywydau ar wahân ynteu a fydd goblygiadau ei weithredoedd o’r gorffennol yn bygwth ei ddyfodol?

Ysbrydolwyd yr awdur yn wreiddiol gan erthyglau am weithgareddau’r heddlu cudd Prydeinig a ymddangosodd ym mhapurau’r Morning Star a’r Guardian rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl, yn ogystal â chyfrol ddadlennol ar y pwnc.

“Mae llai o sôn am guddweision yn cysgu gyda’u targedau, yn eu beichiogi ac yn eu priodi, er y gallwn fod yn saff fod hynny’n mynd rhagddo hefyd,” meddai Gareth Miles.

Daw cyhoeddi’r nofel ar gyfnod gwleidyddol tyngedfennol ynglŷn â’r cwestiwn o breifatrwydd, diogelwch a chyfrinachedd yn dilyn datgeliadau Edward Snowden a WikiLeaks, pan arweinir rhywun i gredu eu bod “nhw” yn gwybod popeth am bob un ohonon ni.