Linda Tomos
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell wedi penodi Prif Weithredwr dros dro newydd.

Bydd Linda Tomos yn dechrau yn ei swydd ar ddechrau mis Tachwedd a hi fydd yn olynu’r cyn-Brif Weithredwr, Aled Gruffydd Jones a adawodd y swydd ym mis Awst wedi adroddiad beirniadol ar reolaeth y sefydliad.

“Rwyf yn falch iawn fod Bwrdd y Llyfrgell wedi penodi Linda Tomos fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,” meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell.

“Mae gan Linda gysylltiad hir ac agos â’r Llyfrgell drwy ei hamrywiol swyddogaethau o fewn Llywodraeth Cymru.

“Bu’n mynychu cyfarfodydd ein Bwrdd am naw mlynedd ac mae’n llyfrgellydd cymwysedig sydd wedi gwneud ei marc mewn ffordd nodedig iawn ym maes rheoli gwybodaeth.”

Bydd Linda Tomos yn gadael ei swydd fel Cyfarwyddwr MALD (Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Llywodraeth Cymru ar 31 Hydref 2015 gan gychwyn yn y Llyfrgell ar 1 Tachwedd 2015.