Mae llyfr newydd wedi’i gyhoeddi sy’n trio annog rhieni i wella iaith eu plant.

Yn tywys plant drwy’r llyfr ‘Helpwch eich Plentyn’ gan ei helpu ag iaith mae draig o’r enw Dwli gan yr arlunydd Graham Howells o Lanelli.

Mewn swigen fawr o enau Dwli daw rheolau iaith fel ‘ Mae angen defnyddio ffurf wahanol ar yr arddodiad yn gyda phob rhagenw’.   

Mae’r llyfr sydd wedi’i anelu at blant deg oed a hyn – yn nodi esiamplau o frawddegau cywir ac anghywir fel sail i’r plentyn fwrw ymlaen gyda’r gweithgareddau.

Mae amrywiaeth o dasgau yn y llyfr gan gynnwys croeseiriau, chwileiriau, cyfleoedd i ddatrys cliwiau ac ail-drefnu geiriau.

Mae cyfieithiadau cryno o’r cynnwys hefyd yn rhoi esboniad pellach i’r plant neu gymorth i rieni di-gymraeg sy’n awyddus i gefnogi addysg Gymraeg eu plant.

Mae cyfres Helpwch eich Plentyn sy’n cael ei gyhoeddi gan  Wasg Gomer, yn cynnig cymorth i blant ar agweddau penodol o ramadeg yr iaith Gymraeg.