Alan Llwyd
Yn dilyn cofiant dadleuol Kate Roberts a gafodd ei gyhoeddi llynedd, mae Alan Llwyd wedi cyhoeddi cofiant arall i un arall o fawrion llen Cymru.

Mae hwn unwaith eto’n datgelu manylion newydd, y tro yma am berthynas stormus  y bardd gyda’r adran Gymraeg ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a’r encilio yn ei flynyddoedd ola’.

Mae ‘Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884 – 1956’ yn addo mynd dan groen yr awdur a oedd yn gyfrifol am rai o gerddi enwoca’ Cymru gan gynnyws ‘Eifionydd’, ‘Y Llwynog’ ac ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’.

Diddordeb mawr

“Mae gen i ddiddordeb mawr wedi bod yn R. Williams Parry erioed,” meddai Alan Llwyd. “Dw i’n cofio astudio Yr Haf a Cherddi Eraill pan o’n i yn yr ysgol a chael fy ngwefreiddio – mae o’n sicr yn un o fy hoff feirdd.”

“Wrth farddoni, roedd R. Williams Parry yn un o’r ychydig feirdd oedd wastad yn cadw safon uchel ac yn rhoi sylw manwl i gywirdeb ei grefft.

“O ganlyniad mae bron bob cerdd ganddo yn gampwaith.

‘Dawn aruthrol’

“Dw i’n credu mai ei gamp fwyaf oll yw’r corff anhygoel o farddoniaeth y mae o wedi ei adael ar ôl i ni.

“Mae’r ffaith bod y cerddi hynny yn dal i fod yr un mor boblogaidd heddiw ag yr oedden nhw pan gawson nhw eu sgwennu’r tro cyntaf yn dyst o’i ddawn aruthrol.”

Mae rhai o gerddi R. Williams Parry ar faes llafur cyrsiau Cymraeg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion hyd heddiw.

‘Ei nabod yn reit dda’

Yn ogystal â thrafod ei farddoniaeth, bydd y gyfrol yn edrych ar ei fywyd, ei gynefin, ei deulu, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno.

“Ro’n i’n awyddus i ysgrifennu cofiant am y dyn a’i fywyd, ond mae’n anochel bod rhywfaint o drafodaeth o’i waith yma hefyd gan ei bod hi’n amhosib trafod y dyn heb drafod ei waith – maen nhw’n rhan annatod ohono fo ac yn adlewyrchu cyfnodau a digwyddiadau allweddol yn ei fywyd.

“Roedd creu’r gyfrol yn brofiad gwefreiddiol. Ro’n i’n dysgu pethau newydd yn gyson wrth i’r gwaith ymchwil ddadlennu pethau newydd.

“Trwy dreulio misoedd yng nghwmni R. Williams Parry dw i’n teimlo fy mod wedi dod i’w nabod o yn reit dda erbyn hyn.”

Alan Llwyd a’i gofiannau

Cofiant R. Williams Parry yw’r ail mewn pedwarawd o gofiannau gan yr Athro Alan Llwyd a gafodd ei fagu ym Mhen Llyn ac sydd bellach yn byw yn Abertawe.

Y llynedd cyhoeddwyd ei
gofiant dadleuol i Kate Roberts; bydd ei gofiant i Waldo Williams yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos, a bydd ei gofiant i Gwenallt yn dilyn.

Fe fu’n swyddog cyflogedig i gymdeithas Barddas am flynyddoedd; mae bellach yn awdur llawn amser a newydd gael ei benodi’n Athro yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Stori: Ciron Gruffudd