Côr y Mochyn Du o Gaerdydd enillodd y gystadleuaeth Côr y Pensiynwyr, dros 20 mewn nifer.

Côr Pensiynwyr Aberteifi ddaeth yn ail a Chantorion Bro Nedd oedd yn drydydd.

Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân: Criw Nantgarw oedd yn fuddugol ac maen nhw’n derbyn gwobr o £350.

Part Cerdd Dant dan 21 oed, hyd at 20 mewn nifer: Parti Dyffryn Clwyd gafodd y wobr gyntaf a Pharti Glan Tâf ddaeth yn ail.