Leila Salisbury
Mae 88 o alawon gwerin a gafodd eu casglu gan Iolo Morganwg yn dod i olau dydd am y tro cyntaf mewn llyfr newydd.

Cafodd Alawon Gwerin Iolo Morganwg ei lansio ar y Maes heddiw a dywedodd y golygydd, Leila Salisbury, fod Iolo yn “ddyn dawnus ac amlochrog iawn.”

“Fe oedd casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r alawon yn y gyfrol yn dod o’i fro ei hun, Bro Morgannwg, a bydd y casgliad o ddefnydd i gantorion ac offerynwyr gwerin yn ogystal ag ymchwilwyr sy’n ymddiddori yn ein cerddoriaeth werin,” meddai Leila Salisbury.