Meri Huws a Heini Gruffudd
Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi pryder mai “ffanaticiaid iaith” yw’r unig rai sy’n dewis gofyn am wasanaeth Cymraeg ar hyn o bryd.

“Mae gwasanaeth dwyieithog ar gael mewn amryw o gyrff, ond nid yw’n ddiofyn,” meddai Heini Gruffudd o Dyfodol.  “Mae’n rhaid gwasgu botwm neu ddeialu rhif arall yn hytrach na bod y gwasanaeth yn naturiol ddwyieithog.”

Heddiw mae Dyfodol i’r Iaith wedi cyflwyno ymateb i’r Comisiynydd Iaith ar y Safonau y mae disgwyl i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â nhw. Mae ymgynghoriad y Comisiynydd Meri Huws yn dod i ben ddydd Sadwrn yma.