Cadair eisteddfodol
Mae stondin ar y Maes yn ceisio creu beirdd cadeiriol y dyfodol trwy gynnal sesiynau cynganeddu i blant.

Andrea Parry o’r Bala sy’n cynnal y sesiynau ar stondin Barddas, ac  mae’n pwysleisio mai “sŵn geiriau ydy o i gyd.”

“Does neb yn rhy ifanc i ddysgu cynganeddu a’r grefft o glywed sŵn geiriau,” meddai Andrea Parry.

Ewch draw i stondin Barddas ar y Maes am fwy o wybodaeth.