Mencap - lleoliad y lansiad
Mae ymchwil newydd wedi cael ei lansio ar y Maes i helpu teuluoedd gydag aelod ag anableddau dysgu.

Y bwriad yw sefydlu pa gefnogaeth sydd ei hangen ar y teuluoedd.

“Byddwn ni’n cyfweld â 200-300 o deuluoedd ar draws Cymru,” meddai Jill Grey o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor ac arweinydd yr ymchwil.

Dywedodd Llywydd Prifysgol Bangor, Dafydd Elis-Thomas fod yr ymchwil yn enghraifft o gyfraniad Prifysgol Bangor i faes iechyd a gofal yng Nghymru.