dim cyflenwad trydan
Mae rhai o garafanwyr Bro Morgannwg wedi bod heb gyflenwad trydan ers 6 o’r gloch fore heddiw – ac mae’r siop ar y maes carafanau wedi gorfod taflu gwerth punnoedd o fwydydd oherwydd i’r rhewgelloedd fethu.

“Mi ydan ni yma ers dydd Gwener, ond mi gollson ni’r cyflenwad trydan ben bore heddiw,” meddai un carafaniwr blin wrth Golwg360.

“Mi fuon ni’n ôl yn gweld os oedd pethau wedi gwella, ond does gynnon ni ddim trydan byth.”

Mae’r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen i drio adfer y pwer i’r maes carafanau.