Mae llawlyfr newydd ar gael ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg heddiw – a hwnnw’n dweud wrth feirniaid sut y mae gwneud eu job yn iawn.

Mae ‘Canllaw i Feirniaid Newydd’ yn un o gyhoeddiadau Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, ac mae wedi ei anelu yn bennaf at bobol ifanc sy’n newydd i’r gwaith o feirniadu – ym mhob maes.

Y beirniad cerdd dant, Aled Lloyd Davies, sy’n gyfrifol am y gwaith.