Mae artist wedi gosod llenni coch dros un o’i gweithiau yn y neuadd grefft, rhag ofn iddi dramgwyddo eisteddfodwyr.

Mae Karen Jones, yr artist sy’n cyfuno paent a thechnegau gwydr yn ei gwaith, yn arddangos yn yr adeilad bob blwyddyn, ac mae’n adnabyddus am ei gwaith aml-gyfrwng sy’n portreadu cefn gwlad gogledd Cymru, ac ardaloedd y chwareli yn arbennig.

Ond y tro hwn, mae ganddi waith, dan y teitl ‘Dancing Queen’, sy’n dangos corff noeth menyw… a dyna pam ei bod wedi gosod cyrtens artistig drosto.

“Mae o’n dipyn bach o hwyl,” meddai Karen Jones, sy’n byw a gweithio yn Y Waunfawr.