Y Lle Celf
Mae crëwr y darn celf gwerth £1,000 sydd wedi diflannu o Le Celf yr Eisteddfod wedi derbyn y newyddion yn raslon, meddai’r Eisteddfod.

Fe ddywedodd yr artist Daniel Clark fod “pethau fel hyn yn digwydd”, meddai Swyddog Celf y Brifwyl, Robyn Tomos, sy’n dal i fod heb syniad beth sydd wedi digwydd i’r pren mesur ar blinth.

Roedd wedi diflannu yn ystod agoriad swyddogol y Sioe Gelf ddydd Sadwrn ond dyw’r heddlu ddim wedi cael gwybod – yn ôl y swyddog am nad oes sicrwydd mai wedi ei ddwyn y mae.