Mae’r Archdderwydd wedi defnyddio ei araith o’r Maen Llog i “erfyn” ar Brif Weinidog Cymru i roi’r gorau i’r syniad o wahodd llogau tanfor niwclear i Sir Benfro.

Yn ei araith ola’ yn y swydd, mae Jim Parc Nest yn dyfynnu’r beirdd, Iolo Morganwg a Waldo Williams, wrth alw ar Carwyn Jones i wrthod y syniad, ac yntau’n cael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd eleni.

“Rwy’n erfyn arnat, Carwyn, i ailystyried gwasanaethu’r ‘gallu gau’, ac i’n codi ni ag urddas dy swydd aruchel ‘i fro’r awelon pur o’n hogofâu’.