Daniel Glyn
Mae criw o gomedïwyr yn gobeithio eu bod ar fin creu traddodiad newydd – gyda noson gomedi flynyddol yn y pafiliwn mawr.

Fe fydd y Gala Gomedi yn yr Eisteddfod nos yfory’n dilyn 20 mlynedd o bwyso, meddai’r digrifwr, Daniel Glyn.

Roedd tua hanner y tocynnau eisoes wedi eu gwerthu, meddai, wrth iddyn nhw “geisio ail-greu awyrgylch clwb comedi”.

“Gobeithio y cawn ni ei wneud bob blwyddyn,” meddai wrth Golwg 360.

Amrywiaeth

Mae yna amrywiaeth mawr o ddigrifwyr yn cymryd rhan – o Ifan Tregaron i Mr Phormula – gydag enwau cyfarwydd iawn fel Dewi Pws, Mr Picton a Tudur Owen.

“Ryden ni wedi bod yn gofyn a gofyn i’r Eisteddfod ond maen nhw wedi gwrthod bob tro – nos fory gawn ni wybod pam,” meddai Daniel Glyn, cyn pwysleisio mai jôc oedd honno.

Yn ôl y trefnwyr, mae siâp newydd y Pafiliwn gyda’r seddi yn nes at y llwyfan ac ar siâp tair ochrog yn well i sioe gomedi.