Fe fydd S4C yn gwario £1 miliwn y flwyddyn tros y pedair blynedd nesa’ ar ddatblygiadau digidol.

Fe fydd hynny’n cynnwys prosiectau masnachol i wneud arian a chynlluniau “o werth cyhoeddus”, a’r rheiny ar draws amrywiaeth o lwyfannau digidol.

Y nod yw “cyfoethogi ein gwasanaeth, cryfhau’r cyswllt gyda’n gwylwyr a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd,” meddai Elin Morris, Cyfarwyddydd Polisi Masnachol a Chorfforaethol y sianel mewn datganiad ar faes yr Eisteddfod.

Arian masnachol yw’r £1 miliwn yn y Gronfa Ddigidol, meddai’r Sianel, nid arian cyhoeddus.