Mae cerddor ifanc yn dilyn yn ei frawd wrth gipio’r un o brif wobrau offerynnol yr Eisteddfod.

Rhodri Taylor, Aberystwyth, oedd yn gynta’ yn yr Unawd Chwythbrennau dros 19 oed – mae’n frawd i’r clarinetydd enwog Rhys Taylor. Elinor Buglass,  Caerdydd oedd yn ail.

Unawd Telyn dros 19oed – 1, Gwenllian Llŷr, Abertawe; 2, Elfair Grug Dyer, Pwllheli; 3, Glain Dafydd, Bangor.  Unawd Llinynnau dros 19 oed – Dewi Llywelyn Griffiths, Caerdydd.  Unawd Piano dros 19 oed – Sara-Mair Smithies, Llanidloes. Unawd Pres dros 19 oed – Ross Clarke, Caernarfon.