Mae disgwyl y bydd arian Llywodraeth yn dod ar gael ar gyfer datblygiadau digidol ynglŷn â’r iaith Gymraeg.

Mae disgwyl datganiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, sydd wedi defnyddio’r Brifwyl i genhadu dros ddefnydd o’r cyfryngau newydd yn Gymraeg.

Does dim rhagor o fanylion ar gael eto. Mae’r Llywodraeth wedi cefnogi elfen newydd ar y Maes eleni – pabell y cyfryngau digidol, Cefnlen.