Dylan Jones
Mae cyfraniad pobol ddi-Gymraeg y Fro at yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn “rhyfeddol”, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Roedd seremoni agor y Babell Lên, gyda pherfformiadau gan ddwy ysgol feithrin Gymraeg leol yn symbol o hynny, meddai Dylan Jones, gyda chiw o rieni y tu allan a phabell lawn.

“Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n gallu adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn yr ardal. Mae rhai grwpiau wedi dweud y byddan nhw’n parhau i godi arian i gyfrannau at gronfa leol Dinbych y flwyddyn nesa’.”